O Arglwydd, gwna fi'n golofn gre', Ac yn dy deml dod imi le, I lynu wrthyt ti yn lân, Y 'mhob rhyw drallod, fawr a mân. Dal fi fy Nuw, dal fi i'r làn, 'N enwedig dal fi lle'r wy'n wan: Dal fi yn gryf, nes myn'd i maes O'r byd sy'n llawn o bechod cas. Dysg fi, fy Nuw, dysg fi pa fodd I ddweud a gwneuthur wrth dy fodd; Dysg fi ryfela â'r ddraig heb goll, Ac i orchfygu 'mhechod oll. Tra caffwyf rodio'r ddaear hon, Rho'th hedd fel afon dan fy mron; Ac yn y diwedd moes dy law I'm dwyn i mewn i'r nefoedd draw.William Williams 1717-91 Tôn [MH 8888]: Hamilton (Martin Madan 1725-90) gwelir: Dal fi fy Nuw dal fi [i'r làn / 'mhob man] Dysg fi fy Nuw dysg fi pa fodd Newyddion braf a ddaeth i'n bro Yn fynych fynych Iesu cu |
O Lord, make me a strong pillar, And in thy temple give me a place, To stick to thee completely, In every kind of trouble, great and small. Hold me, my God, hold me up, Especially hold me where I am weak: Hold me strongly, until I go out From the world which is full of detestable sin. Teach me, my God, teach me how To speak and act according to thy will; Teach me to wage war with the dragon without losing, And to overcome all my sins. While I get to walk this earth, Give thy peace like a river under my breast; And at the end give thy hand To lead me into yonder heaven.tr. 2019 Richard B Gillion |
|